Y Pwyllgor Cyllid |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 9 Hydref 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
10:00 - 11:27 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Jocelyn Davies (Cadeirydd) Peter Black Christine Chapman Paul Davies Mike Hedges Ann Jones Julie Morgan Simon Thomas |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Jane Hutt, Gweinidog Cyllid Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi Arbenigol, Llywodraeth Cymru Jo Salway, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Gareth Price (Clerc) Meriel Singleton (Ail Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd Simon Thomas AC i'w gyfarfod cyntaf o'r Pwyllgor hwn.
2 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
3 Trafod yr adroddiad drafft ar gyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2014-15
3.1 Roedd Peter Black AC yn absennol ar gyfer yr eitem hon gan ei fod yn aelod o Gomisiwn y Cynulliad.
3.2 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno.
4 Trafod yr adroddiad drafft ar amcangyfrifon drafft Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2014-15
4.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno.
5 Ymchwiliad i Gyllido Addysg Uwch: ystyried tystion llafar
5.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y papur a chytunodd ar y rhestr arfaethedig o dystion, gan ychwanegu'r Prif Gynghorwr Gwyddonol at y rhestr.
6 Craffu ar gynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15 - Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru
6.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith y Gweinidog Cyllid yng nghyswllt cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15.
Camau gweithredu:
Cytunodd y Gweinidog Cyllid i ysgrifennu at y Pwyllgor i roi eglurhad o'r modd y gallai prosiect arfaethedig HS2 effeithio ar symiau canlyniadol Barnett, os bydd y prosiect yn mynd yn ei flaen.
Cytunodd y Gweinidog Cyllid i egluro lefel yr incwm a ddisgwylir o ardrethi annomestig.
Cytunodd y Gweinidog Cyllid i rannu rhagor o wybodaeth ynghylch y terfyn uchaf y mae'r Llywodraeth yn ei bennu o ran y ffioedd y gall awdurdodau lleol eu codi.
Cytunodd y Gweinidog Cyllid i ddarparu ffurflenni monitro ynghylch gwariant cyfalaf ar gyfer ysgolion.
Cytunodd y Gweinidog Cyllid i anfon nodyn ynghylch y gyllideb a ddyrennir i ddatblygu'r Asiantaeth Fabwysiadu Genedlaethol yn ystod y flwyddyn ariannol hon.
Cytunodd y Gweinidog Cyllid i anfon nodyn a rhif yng nghyswllt pa arbedion y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud o fewn ei gweinyddiaeth ganolog.
Cytunodd y Gweinidog Cyllid i anfon nodyn ynghylch y modd arbennig o ymdrin â gwariant ataliol.
Cytunodd y Gweinidog Cyllid i anfon eglurhad ynghylch pam y bu toriad yn y gyllideb ar gyfer y Gymraeg heb yr asesiad o effaith gwariant Llywodraeth Cymru yr addawodd y Prif Weinidog ym mis Chwefror 2013 y byddai'n cael ei gynnal.
7 Papurau i’w nodi
7.1 Nodwyd y papurau.
8 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2014-2015: Adolygiad o'r dystiolaeth a gafwyd
8.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd gan y Gweinidog Cyllid heddiw a chytunodd i ysgrifennu ati i ofyn am eglurhad ynghylch nifer o faterion a gododd yn ystod y sesiwn.